Digwyddiadau Corfforaethol Gogledd Cymru

Diffinio eich potensial a sicrhau eich dyfodol ymhell o bwysau dyddiol bywyd trefol.

Rydym yng nghanol Gogledd Cymru sy'n ddelfrydol ar gyfer cyfarfodydd rhwydweithio rheolaidd a datblygu tîm mewn sefydliadau rhanbarthol.

Awr a hanner o siwrnai ar hyd y ffordd yw Nant yr Odyn o Lannau Merswy. Mae cefn gwlad yma yn llai prysur o lawer ac yn dawelach na'r ardaloedd gwledig o amgylch cytrefi'r gogledd orllewin. Credwn ni y gallwch fod yn fwy cynhyrchiol a chyflawni mwy yma mewn llai o amser nac yn y lleoliadau trefol hyn.

Rydym yn awyddus i arddangos celfyddyd a diwylliant Hiraethog i chi a gobeithiwn y byddwch hefyd yn mwynhau'r tirwedd hardd. Pam na wnewch chi ofyn i ni drefnu rhaglen amrwyiol yma yn cynnwys gwaith heb ddim byd i darfu arno yn Nant yr Odyn a rhai digwyddiadau diddorol neu ymestynnol ar y safle neu gerllaw?