Gwybodaeth leol am Llanfihangel & Cerrigydrudion
Ardal hardd yng Ngogledd Cymru gyda digon i'w gynnig i ymwelwyr yw Hiraethog.
Os byddwch chi'n teithio mewn criw neu ar ddiwrnod allan gyda'r teulu, mae amrediad o weithgareddau sy'n gweddu i bawb.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am unrhyw un o'r gweithgareddau isod, cysylltwch â ni .
Llwybrau Cerdded a Beicio Mynydd
Ewch ar eich beic mynydd o amgylch Cronfa'r Alwen ar lwybr beicio a cherdded pwrpasol. Mae'r llwybr yn dilyn y llyn ac yn dringo ochr y bryn mewn mannau, gan ddatgelu golygfeydd hardd. Gallwch feicio o amgylch LLyn Brenig hefyd, neu os ydych yn teimlo'n anturus, gallwch gyfuno'r ddau lyn er mwyn gwerthfawrogi harddwch yr ardal hon o ddifrif!
Pysgota
Mae Llyn Brenig yn un o fannau pysgota dŵr ffresgorau Cymru ac mae'n boblogaidd gyda physgotwyr plu. Ceir canolfan ymwelwyr, siop a chaffi yno ar gyfer teuluoedd ac mae'n lle arbennig i dreulio'r diwrnod. Bydd teuluoedd yn gwerthfawrogi'r arddangosfeydd ynglÅ·n â sut yr adeiladwyd y llyn, hanes yr ardal a'r bywyd gwyllt y gallwch chwilio amdano.
Mae'r llwybr o amgylch y llyn yn tua 10 milltir, gyda meinciau a mannau deniadol i aros am bicnic ar y ffordd!
Certio a Rafftio Dwr Gwyn
Ar gyfer ymwelwyr mwy mentrus â'r ardal, mae'n werth ymweld â Thrac Certio Glan y Gors. Mae sawl canolfan rafftio dŵr gwyn hefyd yn y Bala a'r ardal gyfagos. Am ragor o wybodaeth ewch i Wefan y Ganolfan Rafftio Dŵr Gwyn
Gweithgareddau i Blant a Theuluoedd
Lle delfrydol ar gyfer teuluoedd, maeamrywiaeth o anifeiliaid i'w gweld yn Fferm Anifeiliaid Pen y Bryn. Bydd y plant wrth eu bodd yn cyfarfod y gwartheg, ceffylau, ieir, cwningod, mulod, lamas, yn ogystal â chrwydro'r ardalodd chwarae a'r llwybrau natur.


