Lleoliad ar gyfer Cyrsiau & Gweithdai Gogledd Cymru

Ein haddewid i chi

Byddwn yn gwneud popeth posibl er mwyn i'ch cyfnod gyda ni fod yn llwyddiant.

Chi fydd ein hunig grŵp o gleientiaid ar ddiwrnod eich ymweliad, felly fydd yna ddim cystadleuaeth am le na brwydr yn erbyn llif o ymyriadau direol.

Byddwn yn darparu gwasanaeth di-lol ar eich cyfer a hwnnw wedi ei deilwra ar gyfer eich anghenion.

Drwodd a thro, bydd ein lleoliad gwledig a'i gyfleusterau yn gwneud mwy nac unrhyw leoliad trefol er mwyn sicrhau eich bod yn cael diwrnod cynhyrchiol iawn gyda ni.

Mae ein menter gymdeithasol yn cael ei sefydlu gan bobl sy'n cynnal eu dyddiau hyfforddi a strategaeth eu hunain; mae eu profiad wedi dylanwadu ar gynllun Nant yr Odyn a'r ffordd y caiff ei rhedeg ar eich cyfer chi.

Hyfforddiant Sgiliau Celfyddydol ac Amgylcheddol

Yn ystod yr haf hwn, rydym am ddatblygu rhaglen o gyrsiau byr a diwrnodiau blasu sy'n symbylu. Byddant yn canolbwyntio ar sgiliau ac arbenigedd ymarferol sy'n defnyddio deunyddiau naturiol lleol. Mae digon o bosibiliadau ar gyfer celfyddyd greadigol wedi ei hysbrydoli gan y tirlun hardd lleol.

Rydym yn chwilio am hyfforddwyr ac ymarferwyr mewn celfyddyd greadigol a chrefftau, a fyddai'n gallu cynnal cyrsiau yn Nant yr Odyn. Os ydych chi'n meddu ar y sgiliau a'r arbenigedd perthnasol, a'ch bod yn credu y byddai gennym ddiddordeb yn eich potensial, byddem yn falch iawn o glywed gennych.