Buddsoddi yn y Gymuned

Mae Nant yr Odyn yn cael ei sefydlu fel menter gymdeithasol. Menter yw hon sy'n cael ei rhedeg ar ddisgyblaethau busnes sydd â'r nod o wneud elw yn union fel unrhyw fenter arall.

Y gwahaniaeth gyda menter gymdeithasol yw ei bod wedi ymrwymo i fuddsoddi yn y gymuned leol a gweithredu ar egwyddorion cynaladwy.

Rydym yn ceisio cyflogi pobl leol a masnachu gyda busnesau lleol. Bydd unrhyw beth sydd dros ben yn cael ei fuddsoddi mewn prosiectau lleol a rhyngwladol gan gynnwys cyfleusterau cymunedol megis y ganolfan gymuned yn Llanfihangel ac elusen adnoddau addysgol sy'n canolbwyntio ar Gambia, Action Force Africa.

Dyma ein blwyddyn gyntaf o fasnachu ac rydym yn awyddus i ddatblygu ein llawn botensial. Os ydych yn credu y gallwn fod o ddefnydd i chi neu bod gennych syniad y gallem weithio arno gyda'n gilydd, byddem yn falch o glywed gennych.