Cyfleusterau cyrsiau & Gweithdai Gogledd Cymru

Parcio Diogel a Band Eang Di-wifr!

Mae gan yr adeilad ryngrwyd di-wifr a Bwrdd Gwyn Rhyngweithiol. A gallwn drefnu amrywiaeth o leoliadau yn dibynnu ar eich anghenion.

Ceir offer sain a DVD hefyd yn ogystal â digon o socedi. Mae'r ystafell hyfforddi'n olau a daw digon o olau dydd iddi.

Trefnir y cyfleusterau a'r dodrefn i fodloni eich anghenion penodol, cyn i chi gyrraedd.

Byddwn yn darparu cinio sylweddol ar amser o'ch dewis chi. Rydym hefyd yn darparu coffi, te a sudd ffrwythauffres gyda chacennau wrth gyrraedd, ganol bore a chanol y prynhawn.

Os ydych am redeg neu seiclo'r rhostir a llwybrau'r goedwig sydd ar garreg ein drws yn ystod yr amser cinio, gallwn, wrth gwrs, ddarparu cawodydd a thywelion.

Mae'r adeilad a'r system dŵr poeth wedi eu gwresogi gan bwmp gwres tanddaearol ac felly mae'r adeilad yn gynnes ac yn gyfforddus yn enwedig yn y gaeaf ac mae digon o ddŵr poeth bob amser.

Mae gennym ardd sy'n wynebu'r de ac o'r ardd,ceir golygfa o'r nant fechan sy'n rhoi ei henw i'r adeilad. Mae rhagolygon y tywydd yn dweud y cawn ni haf braf yn 2009, felly gobeithiwn y byddwch yn manteisio ar y cyfle i eistedd ar ein meinciau yn yr heulwen cynnes yn sŵn Nant yr Odyn.

Does fawr o sŵn trafnidiaeth; dim ond ambell gerbyd yn y pellter.

Mae gennym ddigon o gyfleusterau parcio diogel.

Mae tafarn y pentref, Y Crown, bum munud o waith cerdded oddi yma. Rydym yn ceisio cymeradwyaeth cyrff achredu hyfforddi ac amgylcheddol ar hyn o bryd.