Gwybodaeth am Ganolfan Nant yr Odyn Gogledd Cymru

Calon gudd Gogledd Cymru

Mae ein canolfan wedi ei sefydlu yn adeiladau fferm fynyddig fechan ar Hiraethog, adeiladau o gerrig a llechi a godwyd dros y ddau can mlynedd diwethaf. Yn 2008, fe brynom yr adeiladau ac adnewyddu'r brif sgubor. Dyma ran gyntaf menter sy'n dair rhan. Yn ystod gaeaf 2009, byddwn yn ychwanegu cegin ac ystafell fwyta helaethach, ac yn nes ymalen, bwriadwn sefydlu fferm ffrwythau a dechrau cynhyrchu jariau diddorol yn llawn cynhwysion blasus.

Rydym yn ganolog i Ogledd Cymru gyfan, tua 30 milltir o bob un o'r prif ganolfannau poblogaeth; arfordir y gogledd, Wrecsam a threfi arfordirol y gorllewin. Dyma'r lleoliad delfrydol os ydych am adael y dref am ddiwrnod a phrofi tawelwch ac awyr iach rhostiroedd Sir Ddinbych.

Rydym yn falch o gael dweud nad ydym yn cynnig ystafelloedd heb ffenestri, system awyru swnllyd na choffi gwan.

Mae ein prisiau'n gystadleuol iawn. Gallwn gynnal diwrnod llawn gyda lluniaeth a'r holl wasanaethau am cyn lleied â £5 yr awr neu £30 y diwrnod.


Bydd elusennau cofrestredig a grwpiau lleol yn cael gostyngiad o 25% ar ein prisiau.

A oes gennych chi siaradwyr Cymraeg yna?

Cymraeg yw iaith gyntaf y rhan hon o Gymru. Rydym yn darparu ar gyfer siaradwyr Cymraeg yn ogystal â'r rheiny nad ydynt yn siarad Cymraeg fel iaith gyntaf.

Cyfleusterau Nant yr Odyn

Mae gennym ystafell hyfforddi sy'n llawn offer megis mynediad di-wifr, bwrdd gwyn rhyngweithiol a chyfleusterau modern cyfforddus. I'r dim ar gyfer grwpiau bychain sydd am wneud cynnydd mawr ar faterion sylweddol. Mae ein cyfleusterau'n ddelfrydol ar gyfer grwpiau o hyd at 15 o bobl.

Rydym yn darparu bwyd cartref maethlon sydd wedi ei baratoi gan bobl leol, gan ddefnyddio cynnyrch ffres, tymhorol.

Gallwn ddarparu trafnidiaeth ar gyfer eich grŵp o'r orsaf drenau agosaf neu gallwch gyrraedd ar eich liwt eich hun.

Mae Nant yr Odyn wedi ei adnewyddu'n gynaladwy; gwresogir yr aer a'r dŵr gan bwmp gwres o ffynhonnell danddaearol.

Gweithgareddau Nant yr Odyn

Gallwn drefnu pob math o weithgareddau sy'n ychwanegu at eich diwrnod yn Nant yr Odyn. Gerllaw, mae cwrs rhaffau coedwig, llwybrau cerdded a beicio, llynoedd a chronfeydd ar gyfer hwylio a physgota, yn ogystal ag un o'r traciau certio mwyaf amwyaf cyffrous yng Nghymru.

Os ydych am grwydro'r ffyrdd lleol neu lwybrau'r goedwig yn ystod eich awr ginio, gallwn ddarparu cardiau cyfarwyddiadau, cawod boeth a thywelion.

Llety Lleol yn Nant yr Odyn

Mae gennym gysylltiadau rhwydwaith gyda llety lleol a achredwyd, lle ceir bwyd cartref a llety o ansawdd da. Mae pob llety a restrir o fewn 15 munud ar hyd y ffordd o'n lle ni.

Ewch i'n tudalenllety lleol am ragor o wybodaeth.

Helpu Adfywio Gwledig yng Ngogledd Cymru

Rydym yn ein sefydlu ein hunain fel menter gymdeithasol. Mae hwn yn fusnes cynaladwy gydag ymroddiad egwyddorol i'r ardal leol. Rydym yn prynu'n lleol ac yn cyflogi'n lleol. Bydd elw'n cael ei gyfamodi i ddatblygu cyfleusterau newydd a rhai sy'n bodoli eisoes yn y plwyf.

Cynlluniau Hir Dymor

Rydym yn sefydlu Nant yr Odyn fel canolfan fentrau gwledig.

Yn haf cyntaf ein gweithrediad byddwn yn darparu man cyfarfod a hyfforddi o'r radd flaenaf.

Yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf byddwn yn sefydlu cyfres o ddyddiau hyfforddi mewn sgiliau celfyddydol ac amgylcheddol. Yn nes ymlaen yn ystod yr haf, gobeithiwn gael artist preswyl yma. Drwy gydol yr haf, bydd digwyddiadau fydd yn rhoi cyfle i chi weld beth sydd gennym i'w gynnig fel y gallwch benderfynu sut y gallwn ni fod o gymorth i'ch cynlluniau a'ch rhaglenni chi.